Sunday, 23 October 2011

Melyngoes Bach

Melyngoes bach ar yr afon Alaw ger Llanfachraeth prynhawn heddiw. Parcio wrth y dafarn a cherdded lawr y ffordd tuag at yr afon. roedd y deryn yn dangos yn dda or bont. hyfryd gweld aderyn prin eto ar yr ynys, wedi gweld un or blaen yng Nghemlyn ond rhai blynyddoedd yn ol bellach.

Tuesday, 4 October 2011

Caergybi

Wedi derbyn neges fod Telor Aelfelen(Yellow browed warbler) wedi ei weld eto heddiw, mawr obeithio y bydd cyfle i fynd i chwilio amdano yn fuan.
Hutan y mynydd yn parhau i fod ar y gogarth.

Saturday, 1 October 2011

Taith o amgylch Mon

Cemlyn
Tinwen y garn yn amlwg mewn niferoedd mawr ar y trwyn.
Gwylog yn y bae. Corhedydd y graig ar y creigiau gyda Creyr bach ar yr ynysoedd.
Ynys lawd
Dim golwg o'r Pengam er chwilio amdano yn y chwarel.
Sawl Bran goesgoch a golwg anhygoel o Hebog Tramor
Diwrnod da