Adar Môn
Saturday, 19 November 2011
Diwrnod da ar yr Ynys!
Mae gwylio adar ar yr ynys yn arbennig o gyffroes ar hyn o bryd.gwyach yddfgoch ar Llyn Penrhyn prynhawn ma yn dangos yn agos iawn or wylfan ar ben y bryncyn.Ymlaen wedyn i Bentre Berw parcio yn y maes parcio a cherdded lawr at yr afon, roedd y Crymanbig Ddu yn ceisio ei orau glas i guddio ymysg y rhedyn ond iw weld yn dda ar adegau, y cyntaf i mi weld ar yr ynys.yn gynharach yn yr wythnos cefais Aderyn cyntaf arall ir ynys sef Gwydd Llafur 3 aderyn yn Llyn Coron ymysg nifer o wyddau talcen wen.Mae'r Melyngoes bach yn parhau i fod ar yr afon alaw yn Llanfachraeth.
Sunday, 23 October 2011
Melyngoes Bach
Melyngoes bach ar yr afon Alaw ger Llanfachraeth prynhawn heddiw. Parcio wrth y dafarn a cherdded lawr y ffordd tuag at yr afon. roedd y deryn yn dangos yn dda or bont. hyfryd gweld aderyn prin eto ar yr ynys, wedi gweld un or blaen yng Nghemlyn ond rhai blynyddoedd yn ol bellach.
Tuesday, 4 October 2011
Caergybi
Wedi derbyn neges fod Telor Aelfelen(Yellow browed warbler) wedi ei weld eto heddiw, mawr obeithio y bydd cyfle i fynd i chwilio amdano yn fuan.
Hutan y mynydd yn parhau i fod ar y gogarth.
Hutan y mynydd yn parhau i fod ar y gogarth.
Saturday, 1 October 2011
Taith o amgylch Mon
Cemlyn
Tinwen y garn yn amlwg mewn niferoedd mawr ar y trwyn.
Gwylog yn y bae. Corhedydd y graig ar y creigiau gyda Creyr bach ar yr ynysoedd.
Ynys lawd
Dim golwg o'r Pengam er chwilio amdano yn y chwarel.
Sawl Bran goesgoch a golwg anhygoel o Hebog Tramor
Diwrnod da

Tuesday, 27 September 2011
Caergybi
Bras Y Gogledd yng Nghaergybi heddiw yn y Parc Arfordirol.
Gwylan sabine yn parhau i fod yng Nghriccieth - nifer o'r rhain wedi eu gweld ar hyd arfordir Môn yn enwedig o Bwynt lynas a Chemlyn.
Heb gael cyfle i ddod ar draws un eto eleni.
Nifer o luniau gwych ar y we o'r wylan brydferth yma.

Subscribe to:
Comments (Atom)