Saturday, 19 November 2011

Diwrnod da ar yr Ynys!

Mae gwylio adar ar yr ynys yn arbennig o gyffroes ar hyn o bryd.gwyach yddfgoch ar Llyn Penrhyn prynhawn ma yn dangos yn agos iawn or wylfan ar ben y bryncyn.Ymlaen wedyn i Bentre Berw parcio yn y maes parcio a cherdded lawr at yr afon, roedd y Crymanbig Ddu yn ceisio ei orau glas i guddio ymysg y rhedyn ond iw weld yn dda ar adegau, y cyntaf i mi weld ar yr ynys.yn gynharach yn yr wythnos cefais Aderyn cyntaf arall ir ynys sef Gwydd Llafur 3 aderyn yn Llyn Coron ymysg nifer o wyddau talcen wen.Mae'r Melyngoes bach yn parhau i fod ar yr afon alaw yn Llanfachraeth.

No comments:

Post a Comment